Cyflwyniad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Effaith COVID-19.

  Amdanom ni

1          Fel rheoleiddiwr proffesiynol nyrsys a bydwragedd yn y DU, a chymdeithion nyrsio yn Lloegr, rydym yn gweithio i sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol hyn yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn darparu gofal cyson o ansawdd sy'n cadw pobl yn ddiogel.

2          Rydym yn pennu'r safonau addysg y mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol eu cyrraedd er mwyn ymarfer yn y Deyrnas Unedig. Lle maent wedi dangos rhagoriaeth glinigol ac ymrwymiad i garedigrwydd, trugaredd a pharch, rydym yn eu croesawu i'n cofrestr o fwy na 700,000 o weithwyr proffesiynol.

3          Ar ôl cofrestru, rhaid i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio gadw at y safonau a'r ffyrdd o ymddwyn a nodir yn ein Cod er mwyn sicrhau y gall pobl fod yn hyderus y byddant yn cael gofal diogel o ansawdd ble bynnag y cânt eu trin.

4          Rydym yn hyrwyddo dysgu gydol oes drwy broses ailddilysu, gan annog gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer a'r ffordd y mae'r Cod yn berthnasol i'w gwaith o ddydd i ddydd.

5          Ar yr achlysuron prin pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le o ran gofal, neu pan na fydd y gofal a roddir yn cyrraedd disgwyliadau pobl, gallwn gamu i mewn i ymchwilio a chymryd camau lle y bo angen. Ond nid ydym am weld hyn yn digwydd yn y lle cyntaf. Felly, rydym yn hyrwyddo diwylliant sy'n annog gweithwyr proffesiynol i fod yn agored a dysgu o'u camgymeriadau, diwylliant sy'n rhoi llais cyfartal i'r cyhoedd a diwylliant lle y caiff pawb eu trin gyda charedigrwydd a thosturi.

  Crynodeb

6          Ynghyd â'u cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae nyrsys a bydwragedd yng Nghymru wedi dangos sgiliau, dyfalbarhad a dewrder eithriadol ers dechrau pandemig COVID-19. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan rôl eithriadol yr unigolion hynny sydd ar ein cofrestr yn ystod yr argyfwng hwn. Mae'r cyfraniad hwn wedi bod hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd yr effaith fawr y mae'r pandemig wedi'i chael ar Gymru, sydd wedi gweld cyfradd uwch o farwolaethau yn gysylltiedig â'r coronafeirws na llawer o rannau eraill o'r DU. O ganlyniad i'r heriau a wynebwyd mewn rhannau penodol o Gymru, mae gwahaniaethau sylweddol wedi bod yn y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i reoli lledaeniad y feirws, o gymharu â gweddill y DU.

7          Rydym hefyd am nodi y cyfraniadau rydym ni wedi'u gwneud fel rheoleiddiwr proffesiynol, sydd wedi cael eu harwain gan dair egwyddor ein strategaeth gorfforaethol 2020-2025: rheoleiddio, cefnogaeth a dylanwad.


8          O ran y ffordd rydym yn rheoleiddio, rydym wedi cyflwyno:

8.1         system gofrestru dros dro er mwyn helpu i ehangu'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru;

8.2         newidiadau dros dro i'n safonau rhaglenni addysg er mwyn galluogi myfyrwyr yng Nghymru i gefnogi'r gwasanaeth a pharhau i astudio;

8.3         estyniadau hyblyg i ddyddiadau cau ailddilysu ar gyfer nyrsys a bydwragedd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn ystod y pandemig;

8.4         newidiadau i brosesau Addasrwydd i Ymarfer er mwyn cydbwyso'r angen i sicrhau y caiff aelodau'r cyhoedd eu diogelu mewn achosion risg uchel, gan gydnabod y pwysau presennol y mae'r rhai sy'n gweithio yn y sector yn eu hwynebu.

9          O ran cefnogaeth, rydym wedi datblygu a darparu canllawiau a gwybodaeth i'n rhanddeiliaid, y rhai sydd ar ein cofrestr, a'r rhai sydd am wneud cais i gofrestru dros dro.

10       Yn olaf, o ran dylanwad, rydym wedi cydweithio'n agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yng Nghymru er mwyn sicrhau cytundeb, eglurder a chysondeb wrth wneud penderfyniadau a rhannu negeseuon ar y cyd.

11       Mae rhai o'r mesurau wedi golygu gwneud nifer o ddiwygiadau i'n deddfwriaeth lywodraethu. Mae'r newidiadau hyn, a gyflwynwyd fel pwerau brys a ddarparwyd gan Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn cynnwys diwygio Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 er mwyn galluogi pobl i gofrestru dros dro; diwygio ein Rheolau Cofrestru er mwyn ein galluogi i ymestyn dyddiadau ailddilysu; ac ein Rheolau Addasrwydd i Ymarfer er mwyn ein galluogi i barhau â rhai o'n swyddogaethau craidd, megis cynnal gwrandawiadau o bell.

  Rheoleiddio

  Cofrestru dros dro

12       Mae tyfu'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yn gyflym mewn ffordd ddiogel a phwyllog wedi bod yn ffocws allweddol wrth i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ymateb i bandemig y coronafeirws. I'r perwyl hwn, wedi'i alluogi gan bwerau brys yn Neddf y Coronafeirws 2020, o 27 Mawrth 2020 gwnaethom ddechrau cofrestru nyrsys a bydwragedd dros dro er mwyn ehangu'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth a oedd ar gael.

13       Yn unol â'r pwerau brys a'n polisi cofrestru dros dro, gallwn gofrestru pobl sy'n addas i ymarfer ac sydd â'r profiad angenrheidiol dros dro. Hyd yma, rydym wedi cofrestru pobl gymwys mewn tri grŵp dros dro:

13.1      nyrsys a bydwragedd sydd wedi gadael y gofrestr yn wirfoddol yn ystod y tair blynedd diwethaf;

13.2      nyrsys a bydwragedd a hyfforddwyd dramor sydd wedi cwblhau pob rhan o broses gofrestru'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac eithrio'r Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) terfynol;

13.3      nyrsys a bydwragedd a adawodd y gofrestr yn wirfoddol bedair a phum mlynedd yn ôl.

14       Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y lefel gywir o gymorth a goruchwyliaeth, mae'r ddau grŵp olaf hyn wedi gallu ymuno â'r gofrestr dros dro o dan amodau ymarfer. Rhaid iddynt weithio fel nyrs neu fydwraig gofrestredig gyflogedig i gyflogwr iechyd neu ofal cymdeithasol, a rhaid iddynt bob amser weithio dan gyfarwyddyd nyrs neu fydwraig sydd wedi'i chofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig arall nad yw ar gofrestr dros dro.

15       O ganlyniad i'r mesurau hyn, ar 11 Mehefin roedd dros 14,000 o bobl wedi'u cofrestru dros dro. O'r rhain, roedd gan 614 (4%) gyfeiriad cofrestredig yng Nghymru. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys 584 o nyrsys (95%) a 26 o fydwragedd (4%). O gymharu, mae gan gyfran debyg o bobl ar y gofrestr barhaol gyfeiriad cofrestredig yng Nghymru (5%). Rydym yn rhannu dadansoddiad llawn o'r ffigurau hyn â rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU bob wythnos, gan gynnwys y Prif Swyddog Nyrsio a'r arweinydd cenedlaethol ar gyfer bydwreigiaeth yng Nghymru.

16       Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, gwnaethom benderfynu peidio ag ymestyn cofrestriad dros dro i fyfyrwyr blwyddyn olaf am dri rheswm. Yn gyntaf, nid yw'r galw am unigolion sydd wedi'u cofrestru dros dro ar yr un lefel ag y bu oherwydd natur newidiol effaith y pandemig. Yn ail, mae nifer mawr o fyfyrwyr wedi dewis ymgymryd â lleoliadau estynedig sy'n eu galluogi i gefnogi'r system a pharhau i astudio.

17       Yn olaf, nid yw'r defnydd o unigolion sydd wedi'u cofrestru dros dro ar y lefel y gwnaethom ei rhagweld eto. Cyfrifoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac NHS England, yw trefnu i'r gweithlu brys fod lle mae ei angen a lle mae mwyaf addas iddo fod. Er nad ydym wedi cael data, rydym yn ymwybodol nad yw nifer sylweddol o unigolion sydd wedi'u cofrestru dros dro wedi cael eu defnyddio eto. Mae hyn yn creu ansicrwydd iddynt ac mae'n destun pryder i ni.

18       Rydym wedi ysgrifennu at bawb sydd wedi'u cofrestru dros dro i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a'u dewrder wrth ymateb i rai o'r amgylchiadau mwyaf anodd ac ansicr y mae system iechyd a gofal y DU wedi eu hwynebu erioed. Rydym hefyd wedi gofyn i'r bobl ar y gofrestr dros dro i gwblhau arolwg byr er mwyn ein helpu i ddeall yn well y rôl y mae'r gofrestr wedi'i chwarae yn y frwydr yn erbyn COVID-19 hyd yma. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ynghylch a yw pobl wedi cael eu defnyddio eto ac a fyddent yn ystyried ymuno â'n cofrestr barhaol.

19       Mae dadansoddiad o 15 Mehefin yn dangos, yng Nghymru, nad oedd dros hanner o'r bobl a ymatebodd (57%) wedi cael cynnig cyflogaeth na dechrau ymarfer eto. Roedd ychydig yn llai na chwarter (24%) wedi dechrau ymarfer. Roedd 14% pellach wedi cael cynnig cyflogaeth, ond heb ddechrau ymarfer eto. O gymharu, nid oedd canran debyg o ymatebwyr ledled y DU wedi cael cynnig cyflogaeth eto (56%), ond roedd canran uwch wedi dechrau ymarfer (28%).

20       O'r bobl nad oeddent wedi cael cynnig cyflogaeth na dechrau ymarfer eto, dywedodd ychydig dros draean o'r bobl yng Nghymru fod hyn am nad oedd cyflogwyr posibl wedi cysylltu â nhw (68%, o gymharu â 72% ledled y DU). Nododd y dadansoddiad hefyd fod tua 44 y cant o ymatebwyr yng Nghymru wedi dweud y byddent yn ystyried, neu'n debygol iawn o ymuno neu ailymuno â chofrestr barhaol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (o gymharu â 58% ledled y DU).

21       Mae'r arolwg yn cynnwys nifer o gwestiynau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r pwynt olaf hwn yn hynod bwysig am ein bod yn credu mewn dull cynhwysol o reoleiddio, ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid er mwyn cael cyfrif llawn o'r bobl sydd wedi cofrestru â ni dros dro.

  Rhagnodi dros dro

22       Mae gennym bwerau brys i alluogi nyrsys a bydwragedd unigol, neu grwpiau o nyrsys a bydwragedd, i ragnodi meddyginiaethau, er nad oes ganddynt gymhwyster rhagnodi. Rydym yn cydnabod bod risgiau diogelwch yn gysylltiedig â defnyddio'r pŵer hwn. Gwnaethom drafod y sefyllfa â'r pedwar Prif Swyddog Nyrsio a ddywedodd na fyddai defnyddio'r pwerau yn fuddiol ar hyn o bryd, ac felly nid ydym wedi gwneud hynny.

  Safonau argyfwng ar gyfer rhaglenni addysg

23       Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom gyflwyno safonau argyfwng ar gyfer rhaglenni addysg. Mae'r rhain yn rhoi'r hyblygrwydd i sefydliadau addysgol ganiatáu i fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth ddatblygu ar eu rhaglenni wrth gefnogi'r gweithlu yn ystod y pandemig. Mae'r newidiadau yn golygu:

23.1      y gall myfyrwyr yn chwe mis olaf eu rhaglenni cyn cofrestru orffen eu rhaglenni tra eu bod ar leoliad clinigol;

23.2      y gall myfyrwyr yn eu hail flwyddyn dreulio hyd at 80 y cant o'u hamser ar leoliad clinigol;

23.3      y gall myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf astudio theori 100 y cant yn ystod yr argyfwng.

24       O dan y newidiadau brys, ni fyddai angen trin myfyrwyr sy'n dewis treulio chwe mis olaf eu rhaglenni ar leoliad clinigol fel gweithwyr ychwanegol, ond mae'n rhaid iddynt gael eu goruchwylio wrth ymarfer, a byddai hefyd disgwyl iddynt gael amser dysgu wedi'i neilltuo.

25       Mae adborth gan fyfyrwyr, prifysgolion a phartneriaid proffesiynol, yn ogystal â'n ffigurau diweddaraf, yn dangos bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol. Mae tua 29,500 o fyfyrwyr ledled y DU wedi dewis lleoliad clinigol estynedig, ac mae tua 2,200 o'r rhain yng Nghymru.

  Cofrestru ac ailddilysu

26       Ar gyfer ymgeiswyr a hyfforddwyd yn y DU, rydym yn parhau yn ôl yr arfer gyda cheisiadau ar-lein i ymuno ac ailymuno â'r gofrestr. Rydym hefyd yn parhau i brosesu ceisiadau gan y rhai a hyfforddwyd dramor sydd am ymuno â'n cofrestr. Fodd bynnag, yn unol â chyngor cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, mae ein canolfannau prawf ar gyfer yr Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol ar gau am y tro, sy'n golygu na all ymgeiswyr rhyngwladol gwblhau'r broses gofrestru. Gwnaeth y sefyllfa hon ddylanwadu ar ein penderfyniad i wahodd yr ail grŵp o bobl i ymuno â'r gofrestr dros dro fel y disgrifir ym mharagraff 14.2. Mae bellach yn fwriad ailagor ein canolfannau prawf a byddwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'n hymgeiswyr a'n rhanddeiliaid pan fydd y cynlluniau ar waith.

27       Rydym yn cydnabod, o ganlyniad i'r pandemig a'r mesurau cyfyngiadau symud, nad yw rhai nyrsys, bydwragedd na chymdeithion nyrsio wedi gallu talu eu ffi gofrestru flynyddol oherwydd caledi ariannol, ac nid yw rhai wedi cael yr amser i fodloni'r dyddiadau cau ar gyfer ailddilysu oherwydd y galw sydd arnynt.

28       Rydym wedi ystyried y ddau fater yn ofalus iawn. Gwyddom fod rhai o'n rhanddeiliaid wedi ein hannog i beidio â chodi ein ffi gofrestru flynyddol o gwbl eleni. Er ein bod yn cydnabod y pryder ynghylch y mater hwn, rydym wedi penderfynu peidio â gwneud hyn. Mae ein ffi gofrestru yn ofyniad statudol, yn rhan o'r fframwaith cyfreithiol sy'n nodi yr hyn rydym yn ei wneud a'r ffordd rydym yn ei wneud. Byddai angen cymeradwyaeth Senedd y DU er mwyn ei newid ac nid yw'n rhywbeth y gallem ei wneud ar ein pen ein hunain. Yn ogystal, y ffioedd a delir gan bobl ar ein cofrestr yw ein hunig ffynhonnell incwm ac maent yn hanfodol i ariannu ein holl weithgareddau rheoleiddio: gosod a sicrhau safonau proffesiynol, cynnal y gofrestr, cefnogi prosesau ailddilysu a chynnal gwasanaethau addasrwydd i ymarfer.

 

29       Er mwyn mynd i'r afael â'r risg o galedi ariannol, gallwn ganiatáu chwe wythnos ychwanegol i dalu'r ffi pan fo angen. Hefyd, yn ein strategaeth ariannol, rydym wedi ymrwymo i gadw'r ffi ar lefel 2015, sef £120, cyhyd â phosibl.

 

30       Rydym yn cefnogi'r rhai sy'n cael trafferth bodloni dyddiadau cau ailddilysu drwy ddarparu estyniad tri mis awtomatig i bobl a oedd i fod ailddilysu rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020. Bydd y rhai sydd i fod ailddilysu o fis Gorffennaf ymlaen yn gallu gofyn am estyniad o dri mis os bydd ei angen arnynt. Mae estyniadau pellach y tu hwnt i'r tri mis cychwynnol ar gael lle y bo angen.

  Addasrwydd i ymarfer

31       Rydym wedi cyflwyno diwygiadau brys penodol i'n Rheolau sy'n caniatáu i ni gynnal gwrandawiadau rhithwir ac anfon hysbysiadau yn electronig. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu parhau i gymryd camau gweithredu hanfodol i ddiogelu'r cyhoedd lle y bo angen mewn achosion risg uchel.

32       Er mwyn lleihau'r effaith ar y gwasanaeth ac ar unigolion yn ystod y pandemig, mae gwaith achos a gwrandawiadau nad ydynt yn hanfodol wedi cael eu gohirio. Fodd bynnag, rydym bellach yn dechrau ailgynnal ein gwaith achos am ein bod yn cydnabod yr effaith y gall yr oedi ei chael ar bobl sydd wedi codi pryderon â ni, yr unigolion ar y gofrestr a'u cyflogwyr.

  Cymorth

33       Ers dechrau'r pandemig, mae nyrsys a bydwragedd yng Nghymru wedi dangos lefelau eithriadol o sgiliau a phroffesiynoldeb wrth weithio mewn amgylcheddau cymhleth ac ansicr iawn. Un o'n prif flaenoriaethau yw rhoi cyngor a gwybodaeth glir er mwyn cefnogi'r bobl sydd ar ein cofrestr wrth iddynt gyflawni eu rolau, gwneud penderfyniadau clinigol ar sail gwybodaeth, a deall y newidiadau rydym wedi'u gwneud mewn ymateb i'r pandemig.

34       Er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyngor a gwybodaeth glir am gofrestru dros dro a'n dull rheoleiddio yn ystod y pandemig, rydym wedi gwneud y canlynol:

34.1      cyhoeddi datganiad ar y cyd â 10 o reoleiddwyr proffesiynau eraill ar sut y byddwn yn parhau i reoleiddio yn ystod y pandemig;

34.2      cyhoeddi pedwar datganiad ar y cyd ag arweinwyr nyrsio a bydwreigiaeth ledled y DU am ein cynlluniau ar gyfer ehangu'r gweithlu;

34.3      trefnu galwadau a chyfarfodydd o bell a chyhoeddi blog a chyfres o adnoddau i gyflogwyr;

34.4      creu hwb COVID-19 gyda gwybodaeth wedi'i thargedu ar gyfer rhanddeiliaid, a welwyd dros filiwn o weithiau;

34.5      anfon 70,807 o e-byst wedi'u targedu i bobl sy'n gymwys i gofrestru dros dro;

34.6      ateb 47,948 o alwadau a 13,097 o e-byst i'n canolfan gyswllt gartref rhwng 20 Mawrth a 9 Mehefin 2020;

34.7      defnyddio amrywiaeth o erthyglau yn y cyfryngau, blogiau, cyfryngau cymdeithasol a gweminarau er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.

35       Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiadau ar faterion sy'n bwysig i'r bobl ar ein cofrestr a'n rhanddeiliaid, ac sy'n bwysig o ran diogelwch pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gan gynnwys:

35.1      Argaeledd cyfarpar diogelu personol;

35.2      Blaengynllunio gofal a phenderfyniadau na cheisier dadebru cardio-anadlol (datganiad ar y cyd â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol);

35.3      Effaith anghymesur COVID-19 ar bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME);

35.4      Ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr. Gwnaethom hefyd ymuno â Llywodraeth Cymru i gynnig llythyr agored at nyrsys gofal cymdeithasolyng Nghymru yn diolch iddynt am eu gwaith caled a'u proffesiynoldeb yn ystod y pandemig.

  Dylanwadu

36       Ar gyfer yr holl fesurau rydym wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pandemig, rydym wedi ymgysylltu â phartneriaid ym mhedair llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus cysylltiedig. Mae'r gwaith ymgysylltu hwn wedi ein galluogi i ymateb yn gyflym a gyda'r sicrwydd angenrheidiol bod ein penderfyniadau wedi bod yn briodol i'r amgylchiadau. Maent hefyd wedi bod yn hanfodol er mwyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth frys a'r safonau a'r canllawiau  angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â'r pandemig hwn.

37       Ledled y DU, rydym wedi gweithio gyda'r Cyngor Deoniaid Iechyd, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Unsain ac Unite, Fforwm Arweinwyr Nyrsio Rhwydwaith Cenedlaethol Gofal Critigol, Cymdeithas Nyrsys Gofal Critigol Prydain, Cynghrair Nyrsio Gofal Critigol y DU, Grŵp Cynghori Proffesiynol Nyrsio, Grŵp Cyfarwyddwyr y Rhwydwaith Gofal Critigol Cenedlaethol ac arweinwyr yn y sector gofal cymdeithasol.

38       Mae'r partneriaid rydym wedi gweithio'n agos gyda nhw yng Nghymru yn cynnwys Adran Iechyd Llywodraeth Cymru, y Prif Swyddog Nyrsio, yr arweinydd cenedlaethol ar gyfer bydwreigiaeth, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Grŵp Nyrsio a Bydwreigiaeth Cyn Cofrestru Cymru Gyfan.

39       Rydym hefyd wedi bod yn rhannu pecynnau rhanddeiliaid sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd â'n huwch-randdeiliaid yng Nghymru. Mae'r rhain wedi cynnwys manylion ein gweithgareddau diweddaraf sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Ar ddiwedd mis Ebrill, gwnaeth ein cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer Cymru, Emma Broadbent, hefyd gynnal cyfarfod rhithwir ag uwch-randdeiliaid. Gwnaeth y cyfarfod hwn gwmpasu'r ffordd rydym wedi ymateb i argyfwng y coronafeirws, a'r heriau a'r materion penodol yr oedd systemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn eu hwynebu mewn perthynas â COVID-19.

40       Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am gyngor a chymorth ein partneriaid yn ystod y sefyllfa ddigynsail hon, a'n nod yw parhau i gydweithio ar heriau yn y dyfodol, gan gynnwys wrth baratoi i ddod allan o'r argyfwng presennol.

 

  Camau nesaf

41       Mae nifer o faterion allweddol y mae angen i ni a'n partneriaid fynd i'r afael â nhw er mwyn cefnogi'r gwaith parhaus o reoli'r ymateb i'r pandemig ac ailddechrau darparu gwasanaethau iechyd a gofal. Mae'r rhain yn cynnwys:

41.1      Effaith y pandemig ar addysg myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth, a beth mae hyn yn ei olygu i'w ceisiadau i ymuno â chofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

41.2      Sut i ddod â chofrestru dros dro i ben ar ddiwedd yr argyfwng wrth annog y rhai sydd arni i ymuno â chofrestr barhaol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

41.3      Yr her y bydd gwaith recriwtio rhyngwladol yn debygol o'i hwynebu wrth i'r pandemig barhau ledled y byd, ac, o ganlyniad i hynny, yr angen i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw gweithwyr proffesiynol presennol yng Nghymru a gweddill y DU;

41.4      Sut i ailddechrau cynnal ein gweithgareddau addasrwydd i ymarfer mewn ffordd ddiogel a phwyllog;

41.5      Sut i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth a chydnabyddiaeth ar gyfer nyrsys yn y sector gofal cymdeithasol sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod pandemig y coronafeirws;

42       Rydym eisoes wedi dechrau trafod y materion hyn â'r Prif Swyddog Nyrsio yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hyn wedi canolbwyntio ar sicrhau bod prosesau pontio esmwyth yn dilyn diwedd yr argyfwng ac ystyried sut y gallwn gynnal y gweithlu mwy er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

 

43       Er mwyn sicrhau cyfnod pontio a reolir yn llwyddiannus, credwn y bydd tryloywder a chyfathrebu yn hanfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn awyddus i barhau i ymgysylltu â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, yn ogystal â'n partneriaid allweddol ym mhob rhan o dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

 

 

 

 

Dyddiad cyflwyno: 3 Iau 2020